Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Mr Harris

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(1, 0) 146 Pwy fasa'n disgwyl cyfarfod â blaenoriaid Seilo'n drefnus hefo'i gilydd yma?
(Jared) Does gynno chi ddim yn erbyn i ni ddod am scwrs a smoc i weithdy saer gyda'r nos fel hyn, Mr. Harris?
 
(Jared) Does gynno chi ddim yn erbyn i ni ddod am scwrs a smoc i weithdy saer gyda'r nos fel hyn, Mr. Harris?
(1, 0) 148 Yn erbyn?
(1, 0) 149 Welwch chi, Jared Jones, hen jeinar ydw inna hefyd; mewn gweithdy saer y bûm i am flynyddoedd cyn mynd i'r coleg, a byth er hynny mae gen i rywbeth i'w ddeyd wrth y gweithdy.
(1, 0) 150 Yno y clywais i ugeiniau lawer o ddadleuon cryf ar wahanol bynciau.
(1, 0) 151 Jared Jones, ga i drio'm llaw ar y tools ma am funud, i weld ydi mysedd a nhw'n dal i nabod i gilydd?
(Jared) Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi, ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha.
 
(Jared) Fasa Paul yn fodlon i neud tent i anffyddiwr a chablwr?
(1, 0) 158 Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr?
(Jared) Ie siwr.
 
(Jared) Ie siwr.
(1, 0) 160 Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud |tent| i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef."
(Hopcyn) Ond fasa Paul yn gneud |tent| i un o elynion y Brenin Mawr?
 
(Hopcyn) Ond fasa Paul yn gneud |tent| i un o elynion y Brenin Mawr?
(1, 0) 162 Basa, greda i, ac mi fasa wedyn yn mynd at y dyn i'r |tent| i geisio gneud gwell dyn ohono fo.
(1, 0) 163 A chyda llaw, mae gen i, fel mae'n digwydd, fater bach yr hoffwn i gael eich barn arno, a barn ffafriol os yn bosib.
(Jared) Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth.
 
(Jared) Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth.
(1, 0) 165 Dyma'n agos i fis er pan ordeiniwyd fi'n weinidog yma, ac fel pob gwas newydd mae gen i gynllun bach y carwn i ei roi o'ch blaen fel blaenoriaid Seilo, a dyma fo: rwyf wedi gosod fy mryd ar alw yn nhŷ y bobl hynny yn yr ardal yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad.
(1, 0) 166 Mi leiciwn ar gychwyn fy ngweinidogaeth roi gwâdd iddyn nhw i'r capel: mae hynny'r peth lleia fedra i neud.
(1, 0) 167 Mae gobaith i ddyn go ddrwg ond ei gael i sŵn pethau da.
(1, 0) 168 Be ydi'ch barn chi?
 
(1, 0) 170 Go ddistaw yda chi; rwyn ofni nad ydach chi ddim yn ffafriol i'r cynllun.
(Jared) Mr. Harris, mi fedrwn ddadlu pyncia trymion yng Nghymru am oriau bob dydd, ond go ddi-gynnig yda ni ar dipyn o waith ymarferol.
 
(Ifan) Peth newydd spon yn y lle yma ydi galw ymhob tŷ, Mr. Harris; nath neb erioed mohono i mi gofio.
(1, 0) 175 Tybed nad yw'n llawn bryd i neud hynny, Ifan Wyn?
(Ifan) Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad, heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl.
 
(Hopcyn) Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris.
(1, 0) 178 Does dim gorfodaeth ar neb, wrth gwrs, ond tybed na ddylwn i roi gwâdd caredig i bobl nad ydynt byth yn mynd i gapel nac eglwys dangos fod gennym ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag.
(1, 0) 179 Cofiwch, dydw i ddim yn disgwyl i neb ohonoch chi fel swyddogion ddod hefo fi rownd y tai ma.
(Hopcyn) Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am |goods|.
 
(Jared) Mi wnae un bregeth felly'r byd o les.
(1, 0) 185 Mi gofia'r cyngor, Jared Jones.
(1, 0) 186 Ond unwaith eto mae fy holl fryd ar fynd i wâdd y bobl yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad, ac rwyn siwr na sefwch chi ddim yn erbyn hynny.
(Ifan) Mae un tŷ, er hynny, y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.
 
(Ifan) Mi daliwyd o unwaith neu ddwy, ond y syndod ydi, chafodd o ddim jêl.
(1, 0) 194 Gŵr gweddw ydi o?
(Ifan) Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drodd i feddwi a chafodd sac o'r plas, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy bortsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd.
 
(Ifan) Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drodd i feddwi a chafodd sac o'r plas, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy bortsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd.
(1, 0) 196 Ei ferch sy'n cadw tŷ iddo, medde chi.
(Hopcyn) Ie; mi dorrodd ei mam ei chalon, druan, wrth weld Dic yn prowla'r coedydd a'r afonydd, a dyw'r ferch yma sy'n cadw'i dŷ yn fawr gwell na'i thad─rhyw hoeden wyllt, ofergoelus, anwybodus, na fu erioed mewn capel nag eglwys─mae hi fel pe'n perthyn i deulu sipsiwn.
 
(Hopcyn) Mi fasa'n chwith gan ei mam, druan, feddwl y fath gornchwiglen o ferch adawodd hi ar ei hol.
(1, 0) 199 Wel, yn wir, tŷ go anobeithiol i alw ynddo yw hwnna, ac eto gresyn fasa i mi beidio galw yno unwaith o leiaf.
(1, 0) 200 Pwy ŵyr na ddaw rhyw les o ymweld â nhw?
(Ifan) Dyma ni wedi'ch rhybuddio, Mr. Harris.
 
(1, 0) 204 Diolch am y rhybudd, ond y cwbl alla nhw neud ydi tafodi dipyn arna i.
(1, 0) 205 Mi ddo'i yma rai o'r dyddiau ma, Jared Jones, i gadw'm llaw i mewn fel jeinar, mae'n rhy hwyr heno.
(1, 0) 206 Nos dawch bawb ohonoch.
(Pawb) Nos dawch, Mr. Harris.
 
(2, 0) 398 Esgusodwch fi, ai yma mae Mr. Richard Davis yn byw?
(Nel) {Mewn ffug-betruster.}
 
(2, 0) 408 Ydi'ch tad i mewn rwan, sgwelwch chi'n dda?
(Nel) Nag ydi, mae o newydd fynd am dro ar ol swper rownd i stâd; mi fydd yn mynd ddwywaith neu dair yr wsnos rhag ofn fod rhyw gnafon drwg o'r capel na yn seuthu'r gêm sy yn i barc o tu cefn i'r plas ma.
 
(Nel) Chi ydi ciwrat capel Seilo?
(2, 0) 417 Wel, na, nid ciwrat ydi'r enw cywir: ciwrat eglwys ddywedwn ni yntê?
(2, 0) 418 Fi ydi gweinidog newydd capel Seilo, Miss Davis.
(Nel) {Ar y gadair.}
 
(Nel) Lady Nel Davis, sgwelwch chi'n dda; dropiwch y gair "Miss" yna, achos mae o'n nhagu i bob tro y clywaf o.
(2, 0) 421 Dod yma gan ddisgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno—
(Nel) |Dear me!|
 
(2, 0) 427 Ddwedais i mo hynny; roeddwn am eich gweld chi yn gystal a'ch tad.
(Nel) Dyna well dipyn y tro yna, Mr. —, be ydi'ch enw chi, deydwch?
 
(Nel) Dyna well dipyn y tro yna, Mr. —, be ydi'ch enw chi, deydwch?
(2, 0) 429 Eifion Harris.
(Nel) Gan na fûm i rioed o'r blaen yn siarad â chiwrat na gweinidog, wn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch chi; sut mae'ch cyfarch—Mr. Harris, Mr. Eifion Harris, neu'r Parch. Eifion Harris?
 
(Nel) Gan na fûm i rioed o'r blaen yn siarad â chiwrat na gweinidog, wn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch chi; sut mae'ch cyfarch—Mr. Harris, Mr. Eifion Harris, neu'r Parch. Eifion Harris?
(2, 0) 431 Fe wnaiff un ohonynt y tro—Mr. Harris os mynnwch chi.
(Nel) Fel y mynnoch chi, Mr. Harris, achos does gen i mo'r gwrthwynebiad lleia i'ch galw'n Eifion, neu—o'r annwyl dad! mae gen i enw dan gamp arnoch, Ivy!
 
(2, 0) 435 Fe drois yma heno fel cymydog newydd, a doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ngwawdio gynno chi, Miss Davis.
(Nel) {Gan ysgwyd ei bys arno.}
 
(Nel) Dydach chi ddim yn ddig iawn, ydach chi?
(2, 0) 440 Na, na, dim o gwbl, ond mi leiciwn wybod ymhle mae'ch tad.
(Nel) {Saif o hyd ar y gadair ac etyb mewn ffugddistawrwydd, â'i llaw ar ei genau.}
 
(2, 0) 444 Wel, yn wir, mae'n ddrwg gen i glywed.
(2, 0) 445 Ydach chi ddim yn teimlo ei fod yn gneud drwg, Nel Davis?
(Nel) {Yn ddiniwed.}
 
(Nel) I'r samons?
(2, 0) 450 Mi wyddoch chi'n well na hynny; mi wyddoch nad ydi portsio ddim yn iawn, yn tydi o cynddrwg a—
 
(Nel) Ewch ymlaen.
(2, 0) 454 Wel i fod yn blaen a gonest, cynddrwg a lladrad.
(Nel) {Neidia i lawr o'r gadair a wyneba ef yn ddigllon; gan dynnu'r het oddiar ei phen.}
 
(Nel) Ddaethoch chi yma heno i'n galw ni'n lladron?
(2, 0) 458 Na, na! rhoswch funud; peidiwch digio na chamesbonio pethau.
(2, 0) 459 Mi wyddoch gystal a finnau nad ydi portsio ddim yn cael ei styried yn beth parchus.
(2, 0) 460 Deydwch yn onest, ydach chi'n leicio gweld eich tad yn mynd allan hefo'i wn neu'i rwyd bob awr o'r nos?
(Nel) {Gan betruso.}
 
(2, 0) 464 Dyna fo'n union, mi wyddwn hynny, ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydi—
(Nel) Mae gen i ofn bob tro y seuthith y cipar o; ofn i weld o'n dod yn gorff i'r tŷ.
 
(Nel) Mae gen i ofn bob tro y seuthith y cipar o; ofn i weld o'n dod yn gorff i'r tŷ.
(2, 0) 466 Chreda i mohonoch; nid dyna ydi'ch ofn; yng ngwaelod eich calon fe wyddoch nad ydi o ddim yn gneud yn iawn.
(2, 0) 467 Ond mi rydw i'n anghofio'm neges.
(2, 0) 468 Dod yma wnes i i'ch gwâdd chi a'ch tad i'r capel rai o'r Suliau nesa.
(2, 0) 469 Fyddwch chi ddim yn mynd i unrhyw le o addoliad, fyddwch i?
(Nel) Mi fyddaf yn mynd i ganol y coed neu i lan yr afon ambell i bnawn Sul i glywed yr adar yn canu ac i wrando ar sŵn yr afon ar ben fy hun.
 
(Nel) Mi fyddaf yn mynd i ganol y coed neu i lan yr afon ambell i bnawn Sul i glywed yr adar yn canu ac i wrando ar sŵn yr afon ar ben fy hun.
(2, 0) 471 Ia, ond fyddwch chi ddim yn addoli yno?
(Nel) {Yn fyfyriol.}
 
(2, 0) 482 Wn inna ddim yn iawn chwaith, ond mi goelia i fod rhyn ddwedsoch chi rwan yn rhyw fath o addoli hefyd.
(Nel) Glywsoch chi afon yn siarad â chi?
 
(2, 0) 486 Naddo'n sicr; glywsoch chi?
(Nel) Do, lawer gwaith.
 
(Nel) Do, lawer gwaith.
(2, 0) 488 Beth fydd yr afon a'r coed yn ei ddeyd wrthych chi?
(Nel) Deyd y bydda nhw weithia mod i'n siwr o farw, ac na fydd dim colled ar f'ol.
 
(Nel) Dro arall mae nhw'n deyd fod mam yn fyw yn rhywle, er fod i bedd hi yn y Llan.
(2, 0) 491 Fydda nhw'n deyd rhywbeth arall?
(Nel) Ar ol i chi fynd adre, hwyrach yr af allan am dro drwy'r ardd, ac mi fydd y nos a'r coed a'r afon yn dwrdio'n enbyd am i mi golli nhempar efo nhad jest cyn i chi ddod i mewn.
 
(Nel) Ar ol i chi fynd adre, hwyrach yr af allan am dro drwy'r ardd, ac mi fydd y nos a'r coed a'r afon yn dwrdio'n enbyd am i mi golli nhempar efo nhad jest cyn i chi ddod i mewn.
(2, 0) 493 Gollsoch chi'ch tempar?
(Nel) Do, mi collais o heno'n ddrwg, ac mi ges y drafferth fwya ges i rioed i gadw rhag cydio mewn rhywbeth pan oedd nhad yn mynd i nharo i.
 
(Nel) Do, mi collais o heno'n ddrwg, ac mi ges y drafferth fwya ges i rioed i gadw rhag cydio mewn rhywbeth pan oedd nhad yn mynd i nharo i.
(2, 0) 495 Gwarchod ni! fydd o ddim yn eich taro, fydd o?
(Nel) Bydd, mi roi'th lygad du i mi weithia.
 
(2, 0) 498 Yr hen lwfrgi sâl!
(Nel) {Yn brochi.}
 
(2, 0) 503 Nac oes, a phe gwelwn i o'n gneud hynny mi—ond waeth tewi.
(2, 0) 504 Unwaith eto, ddowch chi i'r capel efo'ch tad ne wrthych eich hunan rai o'r Suliau nesa ma?
(Nel) {Gan chwerthin.}
 
(2, 0) 513 Raid i chi ddim trafferthu chwaith.
(Nel) {Gan ei brwsio ar y bwrdd.}
 
(2, 0) 524 Ryda chi'n edrach yn grand—fel mellten oleu mewn ffram ddu.
(2, 0) 525 Ond r'annwyl fawr, gadewch i mi gwisgo nhw, mae gen i ofn bob munud clywed rhywun yn dod at y drws.
(Dic) {Egyr y drws a saif mewn syndod ar y trothwy.}
 
(2, 0) 539 Peidiwch a dechreu cyfri tri, ne mi welwch mai dyna'r tri mwya costus ddaru chi rioed gyfri.
 
(2, 0) 541 Gwell i chi sefyll draw; mae gen i nerth tri chipar yn y mreichiau.
(2, 0) 542 Rhowch eich llaw yn agos ataf, Richard Davis, ne beth bynnag ydi'ch enw, ac mi fydd un portsiar yn llai yn yr ardal ma am fisoedd, mi gymraf fy llw ar hynny.
(Nel) {Gan ddod rhyngddynt.}
 
(Dic) Be ddeydodd hi oedd eich enw chi?
(2, 0) 549 Eifion Harris.
(Dic) Ga i deimlo bôn eich braich?
 
(2, 0) 552 Cewch, neno'r dyn, os leiciech chi neud hynny.
(Dic) {Dyry ei ddwylo ar ewynnau'i fraich.}
 
(Dic) Nos dawch, Syr.
(2, 0) 558 Mi ddeyda'm neges cyn mynd: dod yma wnes i ofyn i chi ddod i'r capel, Richard Davis, rai o'r Suliau ma.
(Dic) Na prin: ond pe delswn o gwbl, mi ddelswn i wrando ar ddyn â braich fel chi, ond ddo i ddim,
 
(Dic) Na prin: ond pe delswn o gwbl, mi ddelswn i wrando ar ddyn â braich fel chi, ond ddo i ddim,
(2, 0) 560 Gadewch i'ch merch ddod ynte.
 
(2, 0) 562 Llun pwy yw hon?
(2, 0) 563 Mae ma rhyw debygrwydd rhyngddi â'ch merch.
(Dic) Dyna lun ei mam.
 
(Dic) Nos dawch.
(2, 0) 566 Nos dawch i chi'ch dau.
 
(Nel) Mam! dyna'r goncwest gynta; mi ddaw'r ail hwyrach ymhen tipyn.
(3, 0) 584 Un waith eto, Mag bach, ac wedyn mi gei lonydd am wsnos.
(3, 0) 585 Chwilia am y gair llongddrylliad; yn un o epistolau Paul mae o, rydw i'n credu.
(Marged) {Chwilia'r "Concordance".}
 
(Marged) "Llongddrylliad am y ffydd"—ai hwnna sy gen ti eisio?
(3, 0) 588 Dyna'r very peth: dyna bictiwr crand sydd yn y geiriau yntê?
(3, 0) 589 Wyt ti'n cofio nhad yn dod i'r tŷ un noson pan oeddym yn blant, yn byw ar lan môr Eifionydd, i ddweyd fod llong allan yn y môr ar y creigiau?
(Marged) Ydw o'r gore, a noson enbyd oedd hi,—y gwynt yn rhuo'n drwm, a'r môr a'r tonnau'n taflu bron i strŷd y pentre.
 
(Marged) Ydw o'r gore, a noson enbyd oedd hi,—y gwynt yn rhuo'n drwm, a'r môr a'r tonnau'n taflu bron i strŷd y pentre.
(3, 0) 591 A phawb yn y pentre'n hen ac ifanc allan yn edrych ar oleuadau'r llong yn siglo'n y pellter. "Llongddrylliad am y ffydd"—rwyt yn gweld y pictiwr sydd yn y geiriau, yn dwyt ti, Mag?
(3, 0) 592 Dyn da fel llong fawr dri-mast yn mynd yn ddarnau ar greigiau temtasiynau'r byd.
(Marged) Wyt ti'n meddwl, Eifion, fod yn bosib i ddyn da fynd yn ddrylliau fel yna cyn marw?
 
(Marged) Dydw i ddim yn leicio meddwl y gall dyn da droi yn ddyn drwg a marw allan ar y creigiau.
(3, 0) 595 Mag bach, mae na lu mawr wedi gneud hynny cyn hyn, ac ambell i bregethwr mawr yn eu mysg.
(Marged) Pregethwyr mawr efallai, ond oedde nhw'n ddynion da?
 
(Marged) Pregethwyr mawr efallai, ond oedde nhw'n ddynion da?
(3, 0) 597 Pwy sydd i farnu?
(3, 0) 598 I bob golwg roedde nhw'n ddynion da, ac yn gneud gwaith da, a phawb yn credu ynddyn nhw.
(Marged) {Chwery â'r blodeu.}
 
(Marged) Dda gen i ddim meddwl fod yn bosib i bregethwr sy'n ddyn da fynd yn |wreck|.
(3, 0) 601 Rhaid cyfadde mai hen syniad annymunol ydi o.
 
(3, 0) 603 Rwyn mynd yn stiff wrth y bwrdd ma; estyn y dumb-bells na i mi, Mag, i stwytho dipyn ar y nghymalau.
 
(3, 0) 608 Mag, mae rhywbeth o'i le arnat ti heno; rwyn teimlo fel pe baet yn siarad am y pared â fi, a ninnau'n dau wedi bod y fath ffrindiau er yn blant adref.
(3, 0) 609 Beth yw'r mater, Mag bach?
(Marged) Dim, hyd y gwn i.
 
(Marged) Dim, hyd y gwn i.
(3, 0) 611 Oes, mae rhywbeth, a chyn i'r pared fynd yn beth mwy, dywed yn blaen be sydd wedi codi rhyngom ni'n dau?
(Marged) {Yn benisel.}
 
(3, 0) 615 O, dyna fel mae'r awel yn chwythu, ai ê?
(Marged) Mae'r peth yn fwy nag awel, mae'n wynt cryf sy'n chwythu drwy'r ardal.
 
(Marged) Mae'r peth yn fwy nag awel, mae'n wynt cryf sy'n chwythu drwy'r ardal.
(3, 0) 617 Be ŵyr yr ardal am y peth?
(Marged) Fe ŵyr pawb drwy'r lle fod yr eneth wyllt na, Nel Davis, wedi dy ffoli'n deg, ac mae pawb yn methu deall be sydd wedi dod dros dy ben a thithau'n y swydd bwysig o weinidog Seilo.
 
(Marged) Fe ŵyr pawb drwy'r lle fod yr eneth wyllt na, Nel Davis, wedi dy ffoli'n deg, ac mae pawb yn methu deall be sydd wedi dod dros dy ben a thithau'n y swydd bwysig o weinidog Seilo.
(3, 0) 619 Meindied yr ardal ei busnes ei hun; does a fynno hi â fy materion personol i.
(Marged) Dyna lle rwyt yn camgymeryd; does gen ti fel gweinidog Seilo ddim materion personol, mae nhw'n faterion i bawb am dy fod yn weinidog yr Efengyl.
 
(Marged) Dyna lle rwyt yn camgymeryd; does gen ti fel gweinidog Seilo ddim materion personol, mae nhw'n faterion i bawb am dy fod yn weinidog yr Efengyl.
(3, 0) 621 Hynny ydi, fe ddylwn gael barn ffafriol yr Eglwys ar y ferch brioda i?
(Marged) Mi wyddost gystal a neb y dylai'r ferch briodi di fod yn weddol gymwys o leiaf i lenwi cylch gwraig gweinidog.
 
(Marged) Mi wyddost gystal a neb y dylai'r ferch briodi di fod yn weddol gymwys o leiaf i lenwi cylch gwraig gweinidog.
(3, 0) 623 Ac wrth gwrs mae Nel Davis yn anobeithiol ym marn yr ardal, ydi hi?
(Marged) Onibae fod yr eneth na wedi dy witsio—witsio ydi'r gair gore am y peth—fe welest tithau nad ydi hi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog; dyna fel mae pawb yn siarad sy'n gwybod am dani.
 
(3, 0) 627 O Mag, Mag! dyna'r gair garwa glywais i di rioed yn ei ddeyd.
(Marged) Wel, mae'n ddrwg gen i fod wedi dy frifo di, achos brawd da fuost i mi, ond {Yn benisel.} fûm innau yn ddim chwaer wael i tithau chwaith, ac mae'n iawn i mi gael gwybod wyt ti o ddifri hefo'r eneth yna.
 
(Marged) Wel, mae'n ddrwg gen i fod wedi dy frifo di, achos brawd da fuost i mi, ond {Yn benisel.} fûm innau yn ddim chwaer wael i tithau chwaith, ac mae'n iawn i mi gael gwybod wyt ti o ddifri hefo'r eneth yna.
(3, 0) 629 Rwyn ei charu o ddifri calon, a chyn belled ag y gwelaf mae hithau'n fy ngharu innau.
(Marged) Eifion bach, wyddost ti beth fydd y canlyniadau o'i phriodi hi?
 
(3, 0) 637 Mag, paid a siarad yn chwerw fel yna, achos mi wyddost nad oes dim brawd yn y byd yn fwy hoff o'i chwaer nag ydw i ohonot ti.
(Marged) O, Eifion, ddylswn i ddim fod wedi deyd y gair cas na, ond anghofia fi am funud, mae na bethau pwysicach na fi yn y bil os priodi di Nel Davis.
 
(Marged) Wyt ti wedi meddwl o gwbl dy fod y dyddiau yma ar groesffordd, a dau lwybr—a dim ond dau—yn agor o dy flaen?
(3, 0) 640 Dos ymlaen, rwyn gwrando'n
(Marged) Un llwybr ydi Nel Davis, merch y portsiar; y llwybr arall ydi'r Eglwys, yr Eglwys y cefaist ti a finnau'n magu ynddi er yn blant, yr Eglwys y bu'n tad a'n mam a'n teulu o hil gerdd yn aelodau ffyddlon ohoni.
 
(3, 0) 644 Rwyn methu gweld mod i wedi dod i groesffordd mor lom a honna.
(Marged) Cred fi, dyna'r groesffordd rwyt ti arni heddiw—Nel, merch Dic Betsi, neu'r Eglwys Gristnogol.
 
(3, 0) 650 Llongddrylliad o'm ffydd!
(3, 0) 651 Pwy sy'n deyd hynny?
(3, 0) 652 Pe priodwn i Nel yfory, fyddai hynny ddim yn llongddrylliad o'm ffydd.
(Marged) Mi fydd llawn cynddrwg a hynny, achos pa eglwys ar wyneb daear all odde'r syniad o gael y fath eneth yn wraig i'w gweinidog; geneth na fu rioed yn twllu drws y capel nac eglwys, geneth sydd wedi tyfu'n wyllt fel petrisen y mynydd, heb wybod y gwahaniaeth sy rhwng da a drwg, geneth sy'n llawn o ofergoelion ac arferion teulu'r sipsiwn.
 
(Marged) O, Eifion bach, rwyt ti'n mynd ar dy ben i lawr y clogwyn—Nel Davis yn wraig gweinidog, a Dic Betsi'r portsiar yn dad-yng-nghyfraith i ti; wyt ti wedi bwrw'r draul?
(3, 0) 655 Mae cymeriad moesol Nel gyda'r gore yn y wlad; does dim blotyn ar ei charitor.
(3, 0) 656 Mae'n wir ei bod yn wahanol i bawb arall mewn rhai pethau, ond mae hi cyn bured a grug y mynydd.
(Marged) Rwyn meddwl digon ohonot i gredu i bod hi mor bur a finnau, ond—grug y mynydd!
 
(Marged) Waeth i ti hynny na rhagor, rwyt ti ar y groesffordd rhwng Nel Davis a'r Eglwys.
(3, 0) 661 Rwyn deyd unwaith eto, os ar y groesffordd yr ydw i, nid Nel a'r Eglwys yw'r ddau lwybr sy'n agor o mlaen, ond Nel a rhagfarn yr Eglwys yn erbyn Nel; Nel a phobl nad ynt erioed wedi cynnig deall Nel.
(Marged) Nel Davis fydd dy ddewis, felly?
 
(Marged) Nel Davis fydd dy ddewis, felly?
(3, 0) 663 Wel, os dyna'r groesffordd, os rhwng Nel a rhagfarn yr Eglwys rwyn sefyll, mi ddewisaf Nel.
(Marged) {Cyfyd i gau'r "Concordance" a'r Beibl.}
 
(Marged) Dyma fi'n cau'r Beibl a'r "Concordance" iti; fydd dim rhagor o eisiau rhain arnat; dyma ddiwedd ar dy gôt ddu a'th gadach gwyn a dy bregethu.
(3, 0) 666 Nage!
(3, 0) 667 Mi bregethaf heb gôt na chadach gwyn os bydd rhaid yn y prif-ffyrdd a'r caeau.
 
(3, 0) 670 Dwedwch rywbeth, Nel: mae'ch golwg chi'n nychryn i.
(3, 0) 671 Mi wyddoch mai fy chwaer yw hon, raid i chi ddim ofni siarad.
(Nel) {Yn araf a syn.}
 
(Nel) Mae na bedwar o ddynion yn cario nhad o goed y Plas.
(3, 0) 674 Oes rhywbeth wedi digwydd?
(Nel) Wn i ddim!
 
(3, 0) 683 Dyma Nel Davis, Doctor; y funud ma roedd hi'n dod i mewn i ddeyd am y digwyddiad.
(Doctor Huws) Rwyn gofyn cymwynas go fawr gennych, Mr. Harris—gawn ni ddod a Richard Davis i mewn i'r gegin neu rywle; mae pob munud yn werthfawr.
 
(Doctor Huws) Gawn ni ddod a fo yma, Mr. Harris?
(3, 0) 689 Cewch, wrth gwrs; fe awn allan ein dau i gyfarfod â nhw.
(3, 0) 690 Mag bach, gofala am Nel Davis, mi fyddwn yn ol rwan jest.
 
(3, 0) 743 Rwan, Nel bach! wedi torri dros y tresi eto?
(3, 0) 744 Rwyn gweld rhen olwg wyllt na yn eich llygaid.
(Nel) {Tyr i lawr i wylo ac eistedd â'i phen ar y bwrdd.}
 
(Nel) Mam!
(3, 0) 747 Mag, dos i weini am dipyn ar y Doctor yn y gegin.
 
(3, 0) 749 Mi fyddwch yn well rwan.
(3, 0) 750 Mae'r Doctor yn gneud ei ore i'ch tad yn y stafell na.
(Nel) Ydi hi ar ben arno?
 
(Nel) Ydi hi ar ben arno?
(3, 0) 752 Mae gobaith tra bo anadl.
(Nel) O! mae'n ddrwg gen i i mi ddychryn eich chwaer rwan.
 
(Nel) O! mae'n ddrwg gen i i mi ddychryn eich chwaer rwan.
(3, 0) 754 Mae'n biti nad allech chi goncro'ch tempar, Nel bach.
(Nel) {Yn ddigalon.}
 
(3, 0) 759 Dowch i mewn.
(3, 0) 760 Rhoswch yma am funud.
 
(3, 0) 762 Dowch i gael golwg rwan ar eich tad.
 
(3, 0) 788 Rwyn ofni na fydd o ddim byw i weld y bore, druan, a dyna farn y Doctor hefyd.
(Hopcyn) Beth yw'r rheswm i fod o yma hefo chi?
 
(Hopcyn) Beth yw'r rheswm i fod o yma hefo chi?
(3, 0) 790 Y Doctor ofynnodd gymrwn i o i mewn; roedd arno ofn iddo farw ar y ffordd.
(3, 0) 791 Mi gwelsoch chitha'ch tri o rwan jest?
(Ifan) Do siwr.
 
(Ifan) O'r gegin oedde ni'n dod pan y gwelsom chi yn rhoi gair o gysur i'w ferch o yn rhinwedd eich swydd fel gweinidog.
(3, 0) 794 Mi fydd yn ergyd trwm iddi hi i golli o.
(Ifan) Ergyd, efallai, ydi'r gair goreu.
 
(Hopcyn) Yn wir, Mr. Harris, rhaid i chi roi pardwn i ni am fod mor ysgafn a'r dyn yna'n marw am y pared â ni, ond does neb yn yr ardal yn malio run botwm corn am dano; chyll neb run deigryn ar ei ol.
(3, 0) 801 Mi wn i am un fydd mewn gofid go fawr ar ei ol.
(Hopcyn) Cyfeirio'r ydach chi wrth gwrs at ei ferch o.
 
(Hopcyn) Cyfeirio'r ydach chi wrth gwrs at ei ferch o.
(3, 0) 803 Ie, mae o'n dad iddi.
(Ifan) Welwch chi, Mr. Harris, heb guro rhagor o gwmpas y twmpathau, oes rhywbeth yn y siarad ma sy'n heplas drwy'r lle eich bod am briodi'r ferch yna?
 
(Ifan) Welwch chi, Mr. Harris, heb guro rhagor o gwmpas y twmpathau, oes rhywbeth yn y siarad ma sy'n heplas drwy'r lle eich bod am briodi'r ferch yna?
(3, 0) 805 Ai gofyn fel blaenor Seilo rydach chi neu fel crydd?
(Jared) {Yn dod i mewn o'r chwith.}
 
(Jared) Os wyt ti, mae'n hen bryd rhoi patsh neu ddau ar d'adenydd di a choblo dipyn ar esgyll dy bedion.
(3, 0) 815 Hanner munud, chaiff dau hen ffrind fel chi ddim ffraeo â'ch gilydd o'm hachos i.
(Ifan) Pam, ynte, mae o'n pwyo'i wimblad i mi?
 
(Hopcyn) Rwan, Mr. Harris, waeth heb areithio dim rhagor ac mae hi'n bryd i'n rhoi ni allan o'n pryder; sut mae hi'n sefyll rhyngoch chi a Nel Davis?
(3, 0) 823 Fe ro ateb plaen i gwestiwn plaen—os yw Nel Davis yn fodlon fy mhriodi, mi priodaf hi.
(Hopcyn) Beth bynnag fydd y canlyniadau?
 
(Hopcyn) Beth bynnag fydd y canlyniadau?
(3, 0) 825 Ie, beth bynnag fydd y canlyniadau.
(Hopcyn) Mi priodwch hi hyd yn oed pe dywedem ni wrthych y collwch chi Eglwys Seilo am neud hynny?
 
(Hopcyn) Mi priodwch hi hyd yn oed pe dywedem ni wrthych y collwch chi Eglwys Seilo am neud hynny?
(3, 0) 827 Gwnaf.
(Hopcyn) Hynny ydi—mae Nel Davis yn fwy yn eich golwg na bod yn weinidog yr Efengyl?
 
(Hopcyn) Hynny ydi—mae Nel Davis yn fwy yn eich golwg na bod yn weinidog yr Efengyl?
(3, 0) 829 Mae gwahaniaeth go fawr rhwng bod yn weinidog yr Efengyl a bod yn weinidog ar Seilo.
(Hopcyn) Felly'n wir, dyna newydd i mi.
 
(Hopcyn) Byddwch gystal ag esbonio'r gwahaniaeth i ni.
(3, 0) 832 Gweinidog yr Efengyl ar bobl Seilo ydw i ac nid gweinidog Seilo ar y Efengyl─mae'r Efengyl yn fwy na Seilo, yn anfeidrol fwy, ond mae perig i ddyn feddwl weithiau fod Eglwys Seilo yn fwy ac yn gallach na'r Efengyl.
(Hopcyn) Eglurwch eich hun i bawb ohonom gael deall eich safle.
 
(Hopcyn) Eglurwch eich hun i bawb ohonom gael deall eich safle.
(3, 0) 834 Eglwys Seilo, sef y bobl sy'n dod ynghyd i'r capel—y nhw sy'n dweyd, os ydynt yn dweyd, nad ydi Nel Davis ddim yn ffit i fod yn wraig i weinidog Seilo; dydi'r Efengyl ddim yn dweyd hynny—yr Efengyl fel rwyf fi'n ei deall.
(3, 0) 835 Rhagfarn pobl Seilo yn erbyn Nel Davis sydd o dan y gwrthwynebiad yma i mi ei phriodi.
(Hopcyn) Rhagfarn?
 
(Hopcyn) Rhagfarn?
(3, 0) 837 Ie, rhagfarn noeth.
(3, 0) 838 Beth sy gan neb i'w ddweyd yn erbyn Nel Davis?
(3, 0) 839 Oes rhyw flotyn ar ei chymeriad?
(Hopcyn) Nac oes, dim un blotyn i mi wybod, ond nid cwestiwn o gymeriad yr eneth sydd mewn dadl.
 
(Hopcyn) Wyr hi ddim am gapel nac eglwys, mae'i phen hi'n llawn o ryw syniadau gwyllt ac ofergoelus, a hon yw'r eneth sydd i fod yn wraig i'n gweinidog.
(3, 0) 844 Ffaeleddau bach iawn yw rheina, a buan y tyf hi allan ohonynt ond iddi gael chware teg.
(Hopcyn) Nid mor fuan, achos mae aelwyd Dic Betsi wedi nwydo a lefeinio gormod arni.
 
(Hopcyn) Nid mor fuan, achos mae aelwyd Dic Betsi wedi nwydo a lefeinio gormod arni.
(3, 0) 846 Ai ïe, dyna chi rwan wedi dod at wreiddyn y gwrthwynebiad sydd iddi, y pechod mawr mae hi'n euog ohono yw, mai Dic Betsi ydi thad hi, dyna wraidd yr holl ragfarn yn ei herbyn.
(3, 0) 847 Druan ohoni, merch Dic Betsi ydi hi; pe bae'n ferch i Mr, Blackwell y Plas mi gawsai bob croeso er i'r un ffaeleddau'n union fod yn perthyn iddi, ac eto ni sy'n sôn am ysbryd gwerinol Cymru, a'r un pryd mor falch yr yda ni i gael bowio i wŷr mawr a chrach-foneddigion.
(Hopcyn) Wel, ofer yw i ni siarad dim yn rhagor.
 
(Hopcyn) Nos dawch.
(3, 0) 852 Nos dawch.
 
(3, 0) 854 Anghofio'ch het ddaru chi, Jared Jones?
(Jared) Dod yn ol ddaru mi er mwyn cael ysgwyd llaw â chi, syr, ar ol y sgarmes.
 
(Jared) Nos dawch!
(3, 0) 865 Nos dawch, a diolch i chi, Jared Jones.
(Marged) Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti.
 
(Marged) Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti.
(3, 0) 869 Tipyn o gur sy yn y mhen i.
(Marged) Mae mwy o gur yn dy galon di, Eifion bach.
 
(Marged) Dywed beth yw'r mater.
(3, 0) 872 Rwyf wedi gadael y groesffordd.
(Marged) {Yn llon.}
 
(Marged) Ac wedi dewis llwybr yr Eglwys?
(3, 0) 875 Naddo, rwyf newydd hysbysu'r blaenoriaid y prioda i Nel Davis, boed y canlyniadau y peth y bônt.
 
(Marged) Mi ddylech fod yn falch o'ch diwrnod gwaith.
(3, 0) 884 Marged, rwyt wedi anghofio'th barch i'th hunan ac i minnau.
(3, 0) 885 Ai dyma'r amser iti fwrw dy lid ar Nel Davis yn i phryder a'i gofid?
(Nel) Does dim eisiau sôn am y mhryder i jest rwan, ond mae gen i hawl i wybod beth sy wedi digwydd yma.
 
(Marged) Mae newydd rybuddio'r blaenoriaid o'i fwriad i'ch priodi er y gŵyr o y digia fo bawb drwy'r lle wrth neud hynny.
(3, 0) 890 Marged!
(3, 0) 891 Fu arna i rioed o'r blaen gwilydd ohonot.
(Marged) Rwyn teimlo dros fy nhad a mam weithiodd nos a dydd i dy godi di i'r pulpud i bregethu'r Efengyl, a dyma'u tâl.
 
(Nel) Mae gen i hawl i wybod.
(3, 0) 895 Fe ddaeth y blaenoriaid yma fel y gwelsoch ac fe ddaeth pethau i boint.
(3, 0) 896 Gofynasant i mi oedd y stori'n wir fy mod yn eich caru, ac fe ddywedais ei bod.
(3, 0) 897 Fe ddwedais y gwir, rydw i yn eich caru er mai adeg ryfedd i ddweyd hynny yw heno.
(Nel) Wel, ewch ymlaen.
 
(Nel) Wel, ewch ymlaen.
(3, 0) 899 Gofynnodd y blaenoriaid i mi oeddwn i'n barod i'ch priodi pe byddai rhaid i mi adael Seilo am wneud hynny, ac fe ddwedais y priodwn chi beth bynnag fasa'r canlyniadau.
(Nel) A! mae Nel Dic Betsi'n sgymun i bawb yn yr ardal, ac mi fydd byth.
 
(Nel) Does dim maddeuant byth i mi am fod yn ferch y portsiar.
(3, 0) 902 Does waeth gen i am farn neb yn y wlad, gan mai chi ydi cannwyll fy llygad i.
(Nel) Mi fydd yn rhaid diffodd y gannwyll heno.
 
(Nel) Mi fydd yn rhaid diffodd y gannwyll heno.
(3, 0) 904 Beth?
(Nel) Phrioda i chi byth!
 
(Nel) Phrioda i chi byth!
(3, 0) 906 Mi fynna'ch priodi.
(Nel) Mi gewch weld yn amgenach.
 
(Nel) Ddo i byth yn dragywydd rhyngoch chi ag Eglwys Seilo na dim eglwys arall.
(3, 0) 909 Fe rois fy ngair y fan yna heno ddiweddaf y priodwn chi pe troid fi dros y drws fory nesaf.
(Nel) Pwy ddywedodd wrthych y priodwn i chi?
 
(Nel) Pwy ddywedodd wrthych y priodwn i chi?
(3, 0) 911 Chi.
(Nel) Naddo rioed!
 
(Nel) Naddo rioed!
(3, 0) 913 Fe roisoch le i mi gasglu drwy'r misoedd yma eich bod yn y ngharu i.
(Nel) A, dyna rywbeth gwahanol.
 
(Nel) Pwy sy'n ameu fy nghariad i at eich brawd?
(3, 0) 919 Nel bach, mi wyddwn fod popeth yn |all right|.
(Nel) Rhoswch funud; dydi popeth ddim yn |all right|.
 
(Nel) Waeth un gair na mil, phrioda i byth mohonoch.
(3, 0) 922 Ond fe ddwedsoch rwan eich bod yn y ngharu i.
(Nel) Ydw, mi ddwedwn hynny ar goedd y byd, ond rwyn eich caru'n rhy fawr i'ch priodi.
 
(Nel) Ydw, mi ddwedwn hynny ar goedd y byd, ond rwyn eich caru'n rhy fawr i'ch priodi.
(3, 0) 924 Nag ydach, ne mi priodech fi.
(Nel) Eifion!
 
(3, 0) 929 Nel, fi ydi'r unig un yn y lle ŵyr eich gwerth, ac rwyn benderfynol o'ch priodi, deued a ddêl.
(Nel) Mae mhoen i'n ddigon heb roi un arall ato, ond waeth i chi geisio symud y Wyddfa na'm symud i o mhenderfyniad.
 
(Mr Blackwell) Bydda i dim ond chydig munuda.
(3, 0) 941 Wrth gwrs, Mr. Blackwell.
 
(3, 0) 970 Nel bach, fi sy'n gorfod torri'r newydd i chi.
(3, 0) 971 Peidiwch a chyffroi: mae'ch tad wedi mynd.
(Nel) {Fel pe mewn breuddwyd.}
 
(Ifan) Mae'n rhaid i ti gychwyn, achos ti ydi'r pen blaenor.
(4, 0) 1056 Rwan, Harri! y troed gore mlaen.
(4, 0) 1057 Orffennwn ni'r |job| yma erbyn diwedd yr wsnos?
(Harri) Fe ddylem a ninnau'n gweithio'n hwyr fel hyn.
 
(4, 0) 1060 Pe cawn i'r breichiau ma i stwytho dipyn, mi drown ragor o waith drwy nwylo.
(Harri) Peth da ydi rhwbio dipyn o |embrocation| arnyn nhw cyn mynd i'r gwely, Syr.
 
(Doctor Huws) Mi ddeuthoch yn ol o'ch tê, mi welaf.
(4, 0) 1064 Do.
(4, 0) 1065 Rwan, Harri ewch chitha i'ch tê.
 
(4, 0) 1067 Sut mae Jared rwan, Doctor?
(Doctor Huws) Canolig iawn.
 
(Doctor Huws) Rwyf newydd ddod a nyrs i dendio ar yr hen lanc er mwyn rhoi pob chware teg iddo wella, os oes gwella i fod.
(4, 0) 1070 Newydd ddod mae'r nyrs?
(Doctor Huws) Ie.
 
(Doctor Huws) Mi yrrais am dani ar unwaith ac mi ddoes a hi i'r tŷ rwan jest.
(4, 0) 1074 Chware teg i'r hen Scweiar, er na faddeuais i byth iddo am fynd a Nel Davis i ffwrdd.
(4, 0) 1075 Roedd eich bysedd chitha yn y bwti hwnnw, a ddwedwch chi na'r Scweiar ddim wrtho i ymhle mae hi yn Llunden.
(Doctor Huws) Does neb ond y Scweiar ŵyr, a phob tro y gofynnaf iddo am |address| Nel Davis, "Fi wedi rhoi |word of honour| fi i Nel Davis i beidio deyd," medda fo.
 
(Doctor Huws) Does neb ond y Scweiar ŵyr, a phob tro y gofynnaf iddo am |address| Nel Davis, "Fi wedi rhoi |word of honour| fi i Nel Davis i beidio deyd," medda fo.
(4, 0) 1077 Dyna'i gân o i minnau hefyd, ond chreda i byth na wyddoch chitha hefyd.
(Doctor Huws) Peth difrifol ydi bod yn anghredadun, Mr. Harris.
 
(Doctor Huws) Wel, pnawn da.
(4, 0) 1082 Ac i chitha.
(Nel) Harri, Harri, ymhle rwyt ti?
 
(4, 0) 1086 Nel!
(Nel) {Gan gilio'n ol at y drws.}
 
(Nel) Mi ddeydodd y Doctor ffals yna mai Harri bach oedd yma.
(4, 0) 1091 Mi ddeydodd wrtho inna mai cloben o Saesnes hyll oeddach chitha.
(Nel) Be ydach chi'n neud yn y gweithdy ma?
 
(Nel) Ydach chi wedi gadael y weinidogaeth a throi'n jeinar?
(4, 0) 1094 Na, cymryd lle Jared rydw i er mwyn ennill dipyn o brês i'r hen greadur tlawd.
(Nel) Go lew chi.
 
(Nel) Dyna'r unig beth nath i mi ddod yn ol i'r lle ma; rwyn ffond o nghalon o Jared.
(4, 0) 1100 O Nel, beth am dana i?
(4, 0) 1101 Rydach chi wedi bod o flaen fy llygaid bob dydd ar hyd y misoedd, ac er holi a chwilio, chawn i ddim gwybod ymhle roeddach chi, a dyma chi cystal a deyd na fasach chi byth yn dod yn ol yma er mwyn neb ond Jared.
(Nel) Waeth i ni heb siarad am yr hen bethau; mae popeth drosodd erbyn hyn.
 
(Nel) Waeth i ni heb siarad am yr hen bethau; mae popeth drosodd erbyn hyn.
(4, 0) 1103 Drosodd?
(4, 0) 1104 Nag ydyn!
 
(4, 0) 1106 Nel bach, dydi popeth ddim drosodd?
(4, 0) 1107 Mi ddaruch gadw o ngolwg am flwyddyn, na wyddwn i ar y ddaear sut i ddod atoch, ond dym chi'n ol o'r diwedd, ac nid ar chware bach y gollynga i nghafael y tro yma.
(4, 0) 1108 Mi priodwch fi rwan, yn newch chi, Nel?
(Nel) Rwyf wedi priodi!
 
(4, 0) 1111 Beth?
(4, 0) 1112 Wedi priodi?
(4, 0) 1113 O, wel, dyna hi ar ben arna i am byth.
 
(4, 0) 1117 Pwy ddaru chi brodi?
(Nel) Rwyf wedi priodi nghrefft?
 
(4, 0) 1120 Nel!
 
(Nel) Nel Dic Betsi ydw i o hyd i'r bobl yma.
(4, 0) 1125 Dyn a'ch helpo, mae pethau wedi newid yn ddirfawr er pan welais chi ddiwedda.
(Nel) Newid ymha ffordd?
 
(Nel) Newid ymha ffordd?
(4, 0) 1127 Wel, i gychwyn, mae fy lle i yn Seilo'n sicrach nag erioed.
(4, 0) 1128 Hyd yn oed pe safai Seilo yn erbyn i ni briodi, mae gen i eglwys ne ddwy'n barod i nerbyn i fory nesa, ac mi ŵyr pobol Seilo hynny.
(4, 0) 1129 Does dim gwell i'w ddal wrth ben eglwys go gyndyn na phistol galwad o eglwys arall,
(4, 0) 1130 Ond y gwir ydi, mae Seilo wedi newid ei barn am danoch.
(Nel) Pam?
 
(Nel) Run Nel ydw i heddyw yn nillad nyrs ag oeddwn i flwyddyn yn ol ym mwthyn Pantglas.
(4, 0) 1133 Nage, Nel bach; yr un yn union ydach chi i mi wrth gwrs, ond i'r bobol sydd yma merch ifanc ydach chi erbyn hyn, wedi bod dan addysg yn Llunden—Nyrs Nel Davis mewn dillad glas, sy'n gweddu iddi'n ofnatsan las—Nel Davis sy'n perthyn o bell i Mr. Blackwell y Plas.
(4, 0) 1134 O mae pethau wedi newid yn rhyfedd y misoedd diwedda ma.
(Nel) Mi fûm yn siarad rwan ag Ifan y crydd a Hopcyn y siop—y ddau oedd fwya'n fy erbyn.
 
(Nel) Mae'r ddau yn tŷ rwan.
(4, 0) 1137 Fuoch chi wir?
(4, 0) 1138 Sut roedda nhw'n behafio?
(Nel) Swil iawn oedd y ddau am dipyn, a mi rois snap ne ddwy iddyn nhw er mwyn rhen amser gynt.
 
(Nel) Ond eisia cymodi oedd arnyn nhw'n amlwg, a mi doddais dipyn bach atyn nhw yn y diwedd.
(4, 0) 1141 Dyna fo eto; mi wyddwn fod.
(4, 0) 1142 Ifan a Hopcyn wedi newid cryn lawer ar i barn.
(4, 0) 1143 Y gwir yw, fe allwn briodi fory cyn belled ag y gwn i.
(Nel) Priodi fory!
 
(Nel) Be sy haru'r dyn?
(4, 0) 1146 Mi wyddoch o'r goreu be ydi meddwl i; does dim ar y ffordd rwan i ni briodi pan fynnwn.
(4, 0) 1147 Ond cyn mynd ymhellach, mae arnoch chi ddyled o flwyddyn o gusanau i mi.
(4, 0) 1148 Beth pe baech yn clirio rhyw gant y funud ma, a chyn diwedd y dydd mi gynhaliwn jiwbili i glirio'r holl ddyled.
(Nel) O'r annwyl!
 
(Nel) Ond beth am Marged?
(4, 0) 1152 Mae Marged yn fwy awyddus na neb am gymodi â chi.
(Hopcyn) Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan?
 
(Nel) Mi ellwch fod yn siwr y gna i ngoreu er mwyn Jared, yr hen greadur annwyl.
(4, 0) 1160 Tybed fod y Doctor yn deall i afiechyd o; mi wariwn y ddimeu ola i gael |specialist| pe gwyddwn i y bae hynny o ryw les.
(Marged) {Daw i mewn o'r dde.}
 
(Marged) Eifion! mi alwodd y Doctor acw rwan i ddeyd fod arnat eisia ngweld i.
(4, 0) 1163 Wel, dyna rôg ydi'r Doctor na.
(4, 0) 1164 Rwyt yn drydydd iddo chware ei gastiau arno.
(4, 0) 1165 Ond rwyt wedi dod i'r tic er hynny.
(4, 0) 1166 Wel di'r Nyrs sy wedi dod i dendio ar Jared.
(Marged) {Gan syllu arni.}
 
(4, 0) 1205 Doctor Huws! rwyn credu y dylech chi ddeyd be ydi ystyr y cellwair yma; mae'n amlwg mai chi ac nid Jared sydd i'w feio.
(Jared) Ruwd annwyl, rydach chi'n edrach yn ddig ofnadwy ar y Doctor—mae pawb ohonoch chi yn edrach yn ddig.
 
(Hopcyn) Wyddech chi am y tric, Mr. Harris?
(4, 0) 1227 Dim.
(4, 0) 1228 Ydach chi'n meddwl y baswn i'n troi yn jeinar yn lle Jared Jones pe baswn i'n gwybod?
(Doctor Huws) Na doedd neb yn gwybod ond y Scweiar a Jared a finnau.
 
(4, 0) 1238 Dyma nhw wedi'n gollwng ni'n dau rwan o'r groesffordd, ond chi bia'r clod o'u perswadio nhw,